I'r Aipht daeth Iesu'm gwared

I'r Aipht daeth Iesu'm gwared
    o dir caethiwed du,
Yspeiliodd yr holl Aiphtiaid
    rh'odd dlysau têg i mi,
  Des â llaw uchel allan,
      dihengais rhag y pla,
  Yn y cyfyngder mwyaf
      mi brofais Dduw yn dda.

Pan oedd hen Pharao greulon
    ar fy ol yn gyrru'n hy,
A minnau mewn cyfyngder,
    heb obaith o un tu;
  Fe chwariodd rhaluniaethau
      yr hollalluog Dduw,
  Fe drefnodd fforddi'm cadw
      er gwaetha' Pharao'n fyw.

Ce's ddw'r o'r graig i yfed,
    i dorri'm syched mawr,
Ce's beunydd fara i'w fwytta,
    o'r nef y daeth i lawr;
  Ce's delyn tu yma i angau,
      fy holl gystuddiau ffodd,
  I ganu i'r Oen fu farw,
      mae'n briod wrth fy modd.

Gostegodd d'ranau Sinai,
    ni chlywaf mwy 'mo'u 'stwr,
Cyfiawnder ga's ei dalu
    gan Iesu, canol Wr;
  Gwir heddwch wy'n feddiannu
      ynghlwyfau'r Oen heb fraw,
  Daeth Iesu o'r bedd i fynu
      a'm pardwn yn ei law.

Trwy waid a chlwyfau Mrenin
    ce's berffaith wir iachad,
Fe gludodd Amaleciaid
    fyrddiynau tan fy nhra'd;
  Hen Og a chewri Basan
      gwympasant oll gan fraw,
  Holl frenhiniaethau Canaan
      r'odd Iesu dan fy llaw.

'Nol treuliwyf yn y bywyd
    flynyddau rif y gwlith,
Ymhlith y dorf na fedr
    un tafod rifo byth;
  Yn gwel'd yr Oen fu farw
      i'm cadw cyn fy mod,
  Bydd cân mor felus i mi
      a'r funud gynta' erio'd.
Morgan Rhys 1716-79
Golwg o Ben Nebo 1764

[Mesur: 13.13.13.13 / 7676D]

gwelir:
  Agorodd ddrws i'r caethion
  Cês dŵr o'r graig i yfed
  'Nôl treuliwyf yn y bywyd

To Egypt came Jesus to deliver me
    from a land of black captivity,
He despoiled all the Egyptians
    he gave fine ornaments to me,
  I came out with a high hand,
      I escaped from the plague,
  In the greatest straits
      I proved God good.

When cruel old Pharaoh was
    after me driving proudly,
And I in straits,
    without hope on any side;
  The providence of the almighty
      God came into play,
  He arranged a way to preserve me
      despite the worst of Pharaoh alive.

I got water from the rock to drink,
    to break my great thirst,
Daily I got bread to eat,
    from heaven it came down;
  I got a harp this side of death,
      all my afflictions fled,
  To sing to the Lamb who died,
      he is a spouse to my delight.

He calmed the thunders of Sinai,
    I no longer hear any of their tumult,
Righteousness got paid
    by Jesus, the mediating man;
  True peace I am possessing in the
      wounds of the Lamb without fear,
  Jesus came up from the grave
      with my pardon in his hand.
  
Through the blood and wounds of my King
    I got perfect, true, health,
He brought myriads
    of Amalekites under my feet;
  Old Og and giants of Bashan
     all fell with terror,
  All the kingdoms of Canaan
     Jesus put under my hand.

After spending in the life
    years as numerous as the dew,
Amongst the throng that no tongue
    can ever number;
  Seeing the Lamb who died
      to preserve me before I was,
  There will be a song so sweet to me
      from the first ever minute.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~